Nintendo Switch

Y Nintendo Switch yn yr arddull "teledu".
Y Nintendo Switch yn yr arddull "llaw".

Mae'r Nintendo Switch yn gonsol gêm fideo a ddatblygwyd gan Nintendo, a ryddhawyd ledled y byd yn y rhan fwyaf o ranbarthau ar 3 Mawrth 2017. Mae'n gonsol hybrid y gellir ei ddefnyddio fel consol cartref ac fel dyfais symudol. Gallwch gysylltu ei reolwyr diwifr, a elwir yn Joy-Cons, i ddwy ochr y consol er mwyn ei chwarae fel consol llaw. Mae meddalwedd y Nintendo Switch yn cefnogi gemau ar-lein trwy gysylltu â'r rhyngrwyd, yn ogystal â'i gysylltu'n ddiwifr yn ad hoc yn lleol â chonsolau eraill. Mae gemau a meddalwedd Nintendo Switch ar gael ar getris ROM corfforol a dosbarthiad digidol trwy'r eSiop Nintendo. Rhyddhawyd fersiwn llaw yn unig o'r system, a elwir y Nintendo Switch Lite, ar 20 Medi 2019.

Cyhoeddwyd y Nintendo Switch ar 20 Hydref 2016. Gyda'r enw-god NX, daeth cysyniad y Switch fel ymateb Nintendo i sawl chwarter o golledion ariannol i mewn i 2014, oherwydd gwerthiannau gwael ei gonsol blaenorol, yr Wii U, a chystadleuaeth y farchnad o gemau symudol. Gwthiodd arlywydd Nintendo ar y pryd, Satoru Iwata, y cwmni tuag at gemau symudol a chaledwedd newydd. Mae dyluniad Nintendo Switch wedi'i anelu at ddemograffig eang o chwaraewyr gemau fideo trwy'r sawl dull o'i ddefnyddio. Gan fod yr Wii U wedi cael trafferth ennill cefnogaeth allanol, ac o ganlyniad yn ei adael gyda llyfrgell feddalwedd wan, ceisiodd Nintendo ennill cefnogaeth nifer o ddatblygwyr a chyhoeddwyr trydydd parti i helpu i adeiladu llyfrgell gemau'r Switch ochr yn ochr â theitlau parti cyntaf Nintendo, gan gynnwys llawer o stiwdios gemau fideo annibynnol.


Developed by StudentB